www.OwainGlyndwr.com

Safle we ffilm fer graffeg gyfrifiadurol



DIWRNOD OWAIN GLYNDŴR



Dyma safle ffilm fer animeiddio sy'n seiliedig ar hanes Owain Glyndŵr gan Animeiddiadau A5.

Croeso i ddangosiad cyntaf, rhagflas o'r gwaith sydd ar y gweill.

"Mae 'Tomen Owain Glyndŵr' yng Nglyndyfrdwy yn lleoliad pwysig iawn. Yma ar 16 Medi 1400 cafodd Owain Glyndŵr ei gyhoeddi'n dywysog Cymru. Fel stiwdio animeiddio sy'n hanu o Lyndyfrdwy, does dim dadlau i ni mai dyma yw'r lleoliad perffaith i gychwyn ar ein taith o adrodd hanes un o arwyr mwyaf ein cenedl. Mae'r rhagflas yn portreadu’r awyrgylch o fod ar drothwy'r foment hanesyddol, yn ystod y dyddiau sy'n arwain tuag at ei gyhoeddiad."



Dilynwch y daith yma ar www.owainglyndwr.com.